Mae Siemens Mobility wedi parhau â’i ymgyrch i wella diogelwch ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd drwy bartneru â Rail Safe Friendly i addysgu pobl ifanc am beryglon tresmasu ar reilffyrdd er mwyn codi ymwybyddiaeth, achub bywydau ac atal anafiadau.
Drwy ymgysylltu ag ysgolion sydd wedi’u lleoli ger depos a phrosiectau Siemens Mobility, yn enwedig y rhai mewn ardaloedd difreintiedig, mae’r cwmni wedi ymrwymo i wneud effaith gadarnhaol yn y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.
Mae rhaglen Rail Safe Friendly yn rhoi cyfle i ysgolion a’r diwydiant rheilffyrdd gydweithio i wella ymwybyddiaeth o ddiogelwch rheilffyrdd ymhlith pobl ifanc ledled y DU gan ddefnyddio cynnwys o wefan Switched On Rail Safety Network Rail.
Lansiwyd y rhaglen yn 2023, yn dilyn marwolaeth drasig Harrison Ballantyne, 11 oed, a gafodd sioc drydanol angheuol ar ôl dringo dros ffens i nôl ei bêl-droed mewn depo trên. Ar hyn o bryd, mae dros 4,000 o ysgolion yn y DU yn cymryd rhan yn y rhaglen, gyda chefnogaeth ariannol gan wahanol bartneriaid diwydiant o fewn y sector rheilffyrdd.
Dywedodd Robert Evans, Cyfarwyddwr Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd ar gyfer Siemens Mobility: “Fel diwydiant, mae mwy y gallwn ei wneud tuag at hyrwyddo diogelwch pobl ar ac o amgylch y rheilffordd. Mae addysg yn allweddol, yn enwedig i bobl ifanc nad ydynt efallai’n deall yn llawn beryglon posibl tresmasu ar rwydwaith y rheilffyrdd.
Mae cefnogi’r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt yn wirioneddol bwysig i ni, a thrwy ymuno â Rail Safe Friendly a chefnogi eu rhaglen addysgol effeithiol, rydym yn cymryd camau gweithredol i rymuso’r genhedlaeth nesaf gyda’r wybodaeth a’r ymwybyddiaeth sydd eu hangen i deithio’n ddiogel ar y rhwydwaith rheilffyrdd bob dydd.”
Caiff darllediadau eu cyflwyno’n ddigidol drwy gynnwys byw neu ar alw i mewn i ystafelloedd dosbarth a neuaddau ymgynnull gan ddefnyddio’r darparwr addysg ddigidol Learn Live. Mae gan y sianel hefyd gyfleuster CHAT BYW wedi’i gymedroli, sy’n cydymffurfio â GDPR, i hyrwyddo rhyngweithio a chyfranogiad gan yr ysgolion a’r colegau sy’n cymryd rhan yn Rail Safe Friendly.
Dywedodd Stuart Heaton, Rheolwr Gyfarwyddwr Learn Live a Rail Safe Friendly: “Rydym wrth ein bodd yn croesawu Siemens Mobility i raglen Rail Safe Friendly. Mae eu cefnogaeth yn golygu y byddwn yn gallu cyrraedd llawer mwy o bobl ifanc wrth ddarparu addysg diogelwch rheilffyrdd hanfodol er mwyn atal anafiadau ac achub bywydau.”
Am ragor o wybodaeth gweler: railsafefriendly.com